Ehangwch eich gorwelion ac agor y drws at lwybrau gyrfa newydd

Astudio cwrs trosi ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau trosi lle nad oes angen gwybodaeth ymlaen llaw neu radd yn y pwnc:

Mae nifer o fanteision i astudio cwrs trosi ôl-raddedig, gan gynnwys: 

  • agor drysau i lwybrau gyrfa newydd
  • parhau â'ch astudiaeth ar lefel uwch
  • datblygu sgiliau a gwybodaeth mewn pwnc newydd
  • tyfu eich set sgiliau
  • dilyn eich angerdd.

Ariannu’ch cwrs trosi

Efallai y byddwch yn gymwys i gael amrywiaeth o gyfleoedd ariannu i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2024-25, gan gynnwys cyllid gan Lywodraeth y DU.

Joana, MSc Computing

“Rhoddodd cwrs trosi y cyfle i mi newid cyfeiriad fy ngyrfa a symud o faes busnes i gyfrifiadura heb unrhyw wybodaeth flaenorol.”

Joana, MSc Cyfrifiadura

Y rhesymau dros ddewis Caerdydd

Rhagolygon gyrfaol rhagorol

Students in a studio

Ble bynnag rydych chi ar eich taith yrfaol, gall ein tîm o gynghorwyr gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i gyflawni eich nodau drwy roi arweiniad personol i chi ar bopeth, boed datblygu sgiliau a chwilio am swyddi neu baratoi am gyfweliadau a chymorth ymarferol. 

Student working with headphones in

Ymchwil flaengar

Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil. Cadarnhawyd bod 90% o'n hymchwil gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Rydym hefyd yn un o brifysgolion blaenllaw Grŵp Russell sy’n uchel iawn ei fri.

Cyfle i gael gostyngiad o £3,000 oddi ar ffioedd dysgu

Rydyn ni’n buddsoddi hyd at £500,000 yng nghynllun Ysgoloriaeth Meistr y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr o safon yn y DU sy'n bwriadu dechrau rhaglen meistr gymwys ym mis Medi 2024. Yn sgîl pob ysgoloriaeth, didynnir gostyngiad o £3,000 oddi ar eich ffioedd dysgu.

Students sat on sofas

Cymorth rhagorol i fyfyrwyr

Rydym am eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad fel myfyriwr ôl-raddedig drwy wneud yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar unrhyw gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch. O gyngor ariannol a chwnsela cyfrinachol i wasanaethau anabledd a gofal rhagorol i blant, mae ein gwasanaethau cefnogol yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.

Rhagor o wybodaeth

Sut i wneud cais

Gwneir ceisiadau drwy Borth Ar-Lein yr Ymgeiswyr. Unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich cais ar gyfer rhaglen astudio, bydd dolen i'r ffurflen gais ar gyfer yr Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr ar gael.

Cysylltwch â ni!

Os oes gennych chi gwestiynau am cwrs trosi neu unrhyw agwedd ar astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, cofiwch gysylltu â'n tîm ar bob cyfrif:


+44 (0)29 2087 0084   postgradenquiries@caerdydd.ac.uk    

Sgwrsio â myfyrwyr ôl-raddedig presennol

Cewch ragor o wybodaeth am fywyd ôl-raddedig yng Nghaerdydd gan y rhai sy'n gwybod orau, drwy sgwrsio â rhai o'n myfyrwyr ôl-raddedig presennol a wnaeth hefyd gwblhau eu hastudiaethau israddedig yma.

Hawlfraint Prifysgol Caerdydd. Elusen gofrestredig rhif 1136855